Cynulliad Cenedlaethol Cymru / National Assembly for Wales

Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu / The Culture, Welsh Language and Communications Committee

Radio yng Nghymru / Radio In Wales

CWLC(5) RADIO05

Ymateb gan Comisiynydd y Gymraeg / Evidence from The Welsh Language Commissioner

1. Cyflwyniad 

Diolch ichi am y cyfle i gyfrannu at yr ymchwiliad i’r radio yng Nghymru. Bydd fy nghyfraniad yn ymwneud yn benodol â phwysigrwydd cyfrwng radio i hyfywedd y Gymraeg. 

Mae darlledu yn chwarae rhan ganolog wrth hyrwyddo ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol ar draws y byd ac yng Nghymru yn arbennig. Yn y cyd-destun Ewropeaidd, cydnabyddir pwysigrwydd darlledu wrth gynnal a hyrwyddo’r defnydd o ieithoedd lleiafrifol o fewn Erthygl 11 y Siarter Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol a Lleiafrifol. Adlewyrchir hyn hefyd yn ‘Argymhellion Oslo ar hawliau ieithyddol lleiafrifoedd cenedlaethol’ sy’n cynnig 4 argymhelliad penodol yng nghyswllt y cyfryngau a darlledu mewn ieithoedd lleiafrifol. Mae’r argymhellion hyn yn amlygu pwysigrwydd sicrhau mynediad ar gyfer siaradwyr ieithoedd lleiafrifol at wasanaethau darlledu sy’n cwrdd â’u hanghenion ieithyddol. Mae hefyd yn amlygu pa mor allweddol yw hynny i hyfywedd ieithoedd lleiafrifol. 

Yn hynny o beth, mae radio yn parhau yn gyfrwng hollbwysig fel platfform ar gyfer cynnwys cyfrwng Cymraeg. Er enghraifft, casglodd adolygiad o’r Gronfa Radio Cymunedol (2012) fod y gorsafoedd cymunedol yn sicrhau ystod o fanteision cymunedol gan gynnwys ‘hyrwyddo gwybodaeth am yr iaith Gymraeg mewn ardaloedd lle mai Saesneg yw'r brif iaith ac annog pobl i'w defnyddio’. 

Bydd y  cyfraniad hwn yw amlygu sefyllfa’r Gymraeg yn y sector ac yn tynnu sylw at rai datblygiadau a heriau pwysig sy’n debygol o effeithio arni. Nodir bod tystiolaeth yn aml yn brin a bod angen ymchwilio ymhellach i nifer o agweddau. Yn hynny o beth, mae gwaith y Pwyllgor yn debygol o lenwi bwlch pwysig ac mae i’w groesawu.

2. Darpariaeth radio cyfrwng Cymraeg yng Nghymru 

Y BBC yw prif ddarparwr cynnwys cyfrwng Cymraeg ar y radio a’r unig un sy’n darlledu yn y Gymraeg yn unig. Ac eithrio darpariaeth gyfyngedig ar orsafoedd masnachol a chymunedol, hyd at 2016 BBC Radio Cymru oedd yr unig ddewis ar gyfer gwrando ar y radio drwy gyfrwng y Gymraeg. Ar ôl cyfnod o arbrofi gyda rhaglen Cymru Mwy yn 2016, lansiwyd Radio Cymru 2 ym mis Ionawr eleni. Bydd yr orsaf yn cynnig cymysgedd ysgafnach o gerddoriaeth ac adloniant. Ni cheir gorsafoedd BBC Radio Cymru lleol sy’n adlewyrchu rhanbarthau Cymru fel y ceir yn Lloegr. 

O ran gorsafoedd masnachol analog, ceir ambell orsaf radio lle mae fformat yn gofyn am rywfaint o allbwn cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog (megis Capital FM yng Nghaernarfon; Capital FM Arfordir Gogledd Cymru; Radio Carmarthenshire/ Scarlet FM; Radio Ceredigion; a Swansea Sound).

Ar hyn o bryd mae 10 gorsaf radio cymunedol yng Nghymru.[1] Mae Môn FM a Tudno FM yn ardal Llandudno yn darlledu’n ddwyieithog, ac mae Point FM yn ardal y Rhyl yn cynnig rhywfaint o gynnwys cyfrwng Cymraeg. Ni cheir radio cymunedol sy’n darlledu yn y Gymraeg yn unig. Dyfarnwyd trwydded gan Ofcom i Radio Beca mis Mai 2012 er mwyn gwasanaethu sir Ceredigion, sir Benfro a Sir Gâr. Er hynny, tynnwyd y drwydded yn ôl dair blynedd yn ddiweddaraf heb i’r orsaf gychwyn darlledu.[2] 

3. Defnydd a diwallu anghenion

Mae tueddiadau gwrando dros y blynyddoedd diwethaf yn awgrymu bod llai a llai o bobl yn gwrando ar gynnwys Cymraeg ar y BBC. Yn 2010/11 roedd 150,000 o wrandawyr ar gyfartaledd pob wythnos. Mae ffigurau gwrando y chwarter diwethaf yn nodi bod 124,000 o wrandawyr[3] wythnosol. Cyfeiriodd Ofcom at ffigwr o 108,000 ar gyfartaledd yn 2017. [4] Mae’n bwysig tanlinellu bod canran cyrhaeddiad [5] BBC Radio Cymru yn cymharu’r ffafriol gyda gorsafoedd radio eraill. Nododd Adroddiad Blynyddol y BBC 2016/17 fod Radio Cymru yn cyrraedd tua 4 y cant o boblogaeth Cymru dros 15 oed - mae 16.7 y cant o boblogaeth Cymru dros 15 oed medru’r Gymraeg.[6] Mae hyn yn ganlyniad da felly o gymharu â chyrhaeddiad gwasanaethau cyfrwng Saesneg megis Radio Wales (14 y cant o boblogaeth Cymru) a hyd yn oed wasanaethau ar lefel Brydeinig megis BBC Radio 1 (17.5 y cant). Er hynny, mae’r canran cyrhaeddiad hwn wedi bod yn gostwng dros y blynyddoedd diwethaf, ochr yn ochr â’r nifer o wrandawyr. Yn gyffredinol, mae’n debygol y bu gostyngiad yn y niferoedd sy’n gwrando ar lawer o’r gorsafoedd masnachol yng Nghymru yn ogystal, gan gynnwys y rhan fwyaf o’r gorsafoedd sy’n darlledu rhywfaint o gynnwys yn y Gymraeg. e.e. gostyngodd cynulleidfa wythnosol Radio Ceredigion o 22,000 ym mis Medi 2013 lawr i 12,000 ym mis Medi 2017. Eto, dylid nodi y bu cynnydd yng nghynulleidfa Capital FM sy’n gwasanaethu Gogledd Cymru a Gogledd-Orllewin Lloegr.[7] Er hynny, nid yw’r ffigyrau hyn yn rhoi darlun cyflawn o effaith hyn ar ddefnyddwyr y cynnwys Cymraeg gan mai elfennau yn unig o’r gwasanaethau hyn a ddarperir yn y Gymraeg. Mae angen am ragor o ddata i ddeall y sefyllfa yn hynny o beth. Hyd y gwyddom, nid oes data ychwaith am ffigyrau gwrando ar orsafoedd cymunedol yng Nghymru.

Mater pwysig arall yw i ba raddau y mae’r ddarpariaeth sydd ar gael yn bodloni anghenion y gwrandawyr. Un o bwrpasau gwasanaeth darlledu cyhoeddus yw ateb gofynion a bodloni diddordebau cynulleidfaoedd [8]. Mae Siarter Frenhinol y BBC yn cadarnhau mai un o’i ddibenion cyhoeddus yw adlewyrchu amrywiaeth cymunedau y DU, a chefnogi ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol y DU, gan gynnwys y Gymraeg. Yn 2011 cynhaliwyd arolwg o orsafoedd radio’r BBC, gan gynnwys yng Nghymru, gan ystyried  gwasanaethau a chynnwys, a phartneriaethau gyda sefydliadau eraill. Ar gyfer BBC Radio Cymru nododd yr arolwg bod ‘sgoriau cymeradwyaeth y gynulleidfa ychydig yn is na sgoriau y rhan fwyaf o  orsafoedd eraill y BBC yng Nghymru’. Nodwyd ar y pryd bod angen ‘gwella ansawdd a mynd ati fwyfwy i wasanaethu gwahanol gynulleidfaoedd ar wahanol lwyfannau’. Pwysleisiwyd ar y pryd bwysigrwydd apelio’n well at y gynulleidfa iau. Yn 2016-17 sgoriodd Radio Cymru 78.8 mas o 100 yn nhermau boddhad defnyddwyr. Mae hyn yn welliant bychan o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, ond nid yw gystal â sgôr Radio Wales (82.7).[9] Byddai’n dda pe bai’r ymchwiliad hwn yn rhoi sylw i sut mae’r BBC yn bwriadu gwella’r dangosydd hwn. Edrychwn ymlaen hefyd i weld beth fydd effaith lansio Radio Cymru 2 ar lefelau boddhad defnyddwyr yn y dyfodol

Fis Ebrill 2017 cymerodd Ofcom gyfrifoldeb dros reoleiddio’r BBC, gan gynnwys sut y mae’n cyflawni yn erbyn ei ddibenion cyhoeddus. At ddibenion hynny, lluniodd Ofcom amodau rheoleiddio[10] a meini prawf perfformiad[11] yn ogystal â strategaeth gasglu data am berfformiad.[12] Y gobaith yw y bydd y broses rheoleiddio newydd yn cynnig darlun cyflawnach fyth o sut mae’r ddarpariaeth yn y Gymraeg yn diwallu anghenion. Yn hynny o beth edrychwn ymlaen at ganfyddiadau adolygiadau Ofcom yn y dyfodol. 

Yn unol â Deddf Cyfathrebiadau 1990 a Deddf Cyfathrebiadau 2003, wrth ddyfarnu trwyddedau gorsafoedd radio cymunedol mae’n rhaid i Ofcom ystyried cyfraniad cymdeithasol [‘social gain’] y gorsafoedd hyn. Dengys canllawiau Ofcom a Gorchymyn Radio Cymunedol [Community  Radio Order] (2004) bod y cyfraniad hwnnw yn cynnwys darparu hyfforddiant a hwyluso trafodaeth yn y gymuned.[13] Gellir dadlau bod adlewyrchu iaith y gymuned a wasanaethir yn greiddiol i gyflawni’r nodau hyn. Serch hynny, o dan ddeddfwriaeth bresennol nid oes dyletswydd neu bŵer gan Ofcom i osod gofynion penodol o ran y cynnwys cyfrwng Cymraeg a gynigir gan y gorsafoedd a drwyddedir. Mynegodd Llywodraeth Cymru awydd ar sawl achlysur i weld gofynion fel hyn yn cael eu cyflwyno.[14] Nid ydwyf yn ymwybodol ychwaith o dystiolaeth sy’n dangos i ba raddau mae’r ddarpariaeth radio masnachol a chymunedol sy’n cynnwys rhywfaint o gynnwys cyfrwng Cymraeg yn diwallu anghenion y gwrandawyr Cymraeg eu hiaith. Yn hynny o beth dylid ystyried dyhead Llywodraeth Cymru yn ei Strategaeth 2050 i’r ‘Gymraeg fod yn berthnasol i bawb yng Nghymru, waeth a ydynt yn siarad Cymraeg, Saesneg neu iaith arall’[15]. Byddai’n ddiddorol clywed a fydd yr ymchwiliad yn rhoi ystyriaeth o gwbl i’r graddau a’r dull y mae cynnwys gorsafoedd radio sy’n darlledu drwy gyfrwng y Saesneg yng Nghymru, boed hwy yn rhai cymunedol, masnachol neu gyhoeddus, yn cyfrannu at ddyhead y Llywodraeth, megis drwy ddarlledu caneuon Cymraeg a thynnu sylw at wyliau a digwyddiadau Cymraeg. 

Mae’n bwysig cofio bod cwymp yn y gynulleidfa radio yn adlewyrchu i ryw raddau newidiadau eangach o ran dyheadau cynulleidfaoedd modern, sydd hefyd yn effeithio ar wasanaethau radio cyfrwng Saesneg. Eto i gyd, mae Cymru yn parhau ar y brig ymysg holl wledydd Prydain yn nhermau oriau o wrando wythnosol ac yn nhermau canran yr oriau gwrando ar rwydwaith y BBC ar lefel Brydeinig (48 y cant).[16] Gellir dadlau bod radio yn parhau felly fel platfform pwysig a pherthnasol ar gyfer cynnwys cyfrwng Cymraeg. Mae’n hanfodol felly fod y cwymp yn nefnydd y cynnwys hwn ar y radio yn cael ei atal a’i wrthdroi. Yn hynny o beth, mae’n allweddol cael rhagor o dystiolaeth am y defnydd o’r cynnwys sydd ar gael ar orsafoedd radio lleol, ac i ba raddau mae’r ddarpariaeth hon yn diwallu anghenion defnyddwyr.

4. Datblygiadau a heriau pwysig 

4.1 Cyrhaeddiad a maint y ddarpariaeth

Mae Radio Cymru 2 yn gam cadarnhaol tuag at ehangu’r detholiad o gynnwys safonol ar gyfer cynulleidfa Gymraeg ei hiaith. Dylid croesawu hefyd ddatblygiadau megis y cynnydd yn y nifer o oriau y darlledodd Radio Cymru yn ystod 2016-17 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol (7,262 o gymharu â 7,000). Priodolir y cynnydd i raddau helaeth i ddarpariaeth ychwanegol Radio Cymru Mwy. Hyderwn y bydd y ddarpariaeth yn parhau i gynyddu wrth i’r orsaf newydd, Radio Cymru 2, wreiddio. Mae cyflwyno Radio Cymru 2 yn gam sylweddol ymlaen o ran cynyddu amrywiaeth y ddarpariaeth.

Mae datblygiadau eraill, megis ehangu cyrhaeddiad BBC Radio Cymru ar DAB gyda sefydlu plethiad newydd yng Ngogledd Cymru yn 2014, hefyd i’w croesawu.[17] Mae hyn yn enwedig o bwysig yng nghyd-destun canfyddiad Ofcom bod 40 y cant o wrando yng Nghymru yn digwydd yn ddigidol erbyn hyn.[18] Oherwydd hyn mae trosglwyddo i DAB hefyd o fudd i orsafoedd masnachol a chymunedol sy’n darlledu rhywfaint o gynnwys yn y Gymraeg. Er hynny, nid yw Radio Ceredigion a gorsafoedd cymunedol eraill ar gael ar DAB eto. Mae trosglwyddo i DAB yn gostus ar gyfer gorsafoedd bach lleol, ac mae cyrhaeddiad daearyddol plethiadau DAB yn rhy eang o gymharu â chyrhaeddiad y gorsafoedd hyn ar analog.[19] Yn 2016 treialodd Ofcom ddatrysiad newydd i’r broblem, sef yr hyn a elwir yn ‘small-scale DAB’. Roedd y canlyniadau cychwynnol yn addawol. Er hynny, nodwyd ar y pryd bod heriau o ran cyrhaeddiad DAB mewn sawl lleoliad, gan gynnwys yn Ne-ddwyrain Cymru.[20] Ar hyn o bryd mae’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn San Steffan wrthi’n ymgynghori ar drefniadau newydd ar gyfer trwyddedi ‘small-scale DAB’.[21] Mae’n hanfodol bod y trefniadau a gytunir wrth symud ymlaen yn galluogi gorsafoedd radio lleol yng Nghymru i ffynnu ac i ddenu cynulleidfa newydd i’w cynnwys cyfrwng Cymraeg.

Gellir tybio y byddai trosglwyddo i DAB hefyd yn ehangu cyrhaeddiad y gorsafoedd llai sy’n cynnwys rhywfaint o gynnwys yn y Gymraeg. Serch hynny, mae costau sylweddol ynghlwm wrth drosglwyddo i DAB. Mae Ofcom wrthi’n treialu datrysiad newydd i’r broblem sef yr hyn a elwir yn ‘small-scale DAB’. Roedd canlyniadau cychwynnol yn addawol. Er hynny, nodwyd ar y pryd bod heriau o ran cyrhaeddiad DAB mewn sawl lleoliad, gan gynnwys yn Ne-ddwyrain Cymru.[22] 

Ceir hefyd heriau eraill sy’n ymwneud â demograffeg siaradwyr y Gymraeg. 5 km yw radiws darlledu arferol radio cymunedol o dan drwyddedau Ofcom. Mae hyn yn cyfyngu ar gyrhaeddiad y gwasanaeth yn yr ardaloedd gwledig, ac felly mae’n debygol o ddylanwadu ar sefyllfa siaradwyr y Gymraeg yn yr ardaloedd hynny. Adnabu Ofcom yr heriau hyn gan ganiatáu i radio Beca ddarlledu dros radiws eangach er mwyn gwasanaethu pocedi o wrandawyr ar draws yr ardal.[23] Er hynny, ni lansiwyd yr orsaf yn y pendraw. Mae’r enghraifft hon yn adlewyrchu anghenion unigryw siaradwyr y Gymraeg fel defnyddwyr y cyfryngau. Mae’n hanfodol ystyried yr anghenion hyn fel rhan o unrhyw adolygiad o’r sector. 

Yn ogystal, ceir newidiadau eraill sy’n debygol o ddylanwadu ar ystod y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar radio masnachol a chymunedol. Yn sgil Deddf Economi Digidol 2010 mae gan Ofcom bŵer i ganiatáu i orsafoedd masnachol rannu darpariaeth rhaglenni, a hefyd i lacio’r dyletswyddau sydd ar y gorsafoedd hynny o ran gofynion lleolrwydd [‘localness’], ar yr amod iddynt drosglwyddo i DAB.[24] Dadleuodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg adeg ystyried y Ddeddf y dylai unrhyw orsafoedd sy’n manteisio ar yr opsiwn hwn hefyd fabwysiadu dyletswydd i ddarparu cynnwys yn y Gymraeg, ond nododd Ofcom mewn ymateb nad oes ganddi bŵer i orfodi dyletswyddau o’r fath.[25] Fis Chwefror 2017 cyhoeddodd DCMS ymgynghoriad ar gynigion i ddadreoleiddio radio masnachol ymhellach er mwyn cryfhau’r sector.[26] Nodwn na fu llawer o sylw i effaith y Ddeddf Economi Digidol 2010 ar y Gymraeg a’r cynigion diweddaraf i ddadreoleiddio’r sector ymhellach. 

4.2 Heriau ariannol

Mae’r sylwadau uchod yn cysylltu â her arall, sef y pwysau ariannol sydd ar y sector. O dan y Gorchymyn Radio Cymunedol (2004) bu cyfyngiadau deddfwriaethol sylweddol ar allu gorsafoedd cymunedol i godi incwm masnachol. Yn sgil llacio’r rheolau hyn yn 2014 mae ganddynt hawl pellach i godi hyd at £15,000 y flwyddyn o ffynonellau masnachol.

Dadleuwyd bod hyn yn gam cadarnhaol sy’n debygol o gefnogi gorsafoedd llai, yn enwedig y gorsafoedd yn y Gogledd megis Point FM, Tudno FM a Môn FM. Eto, dadleuwyd hefyd fod y cap diwygiedig yn annhebygol o newid sefyllfa radio cymunedol yng Nghymru yn arwyddocaol. [27] Yn ogystal, mae’n bosibl y byddai prosiectau megis radio Beca yn methu beth bynnag, oherwydd costau cymharol uwch darlledu yn yr ardaloedd gwledig a phoblogaeth cymharol lai ar gyfer yr hysbysebion.[28] 

Mae hyn yn amlygu rôl ganolog cefnogaeth gyhoeddus i radio cymunedol yng Nghymru. Rhwng 2008 a 2014 roedd Llywodraeth Cymru yn cynnig cymorth ariannol i rai gorsafoedd trwy Gronfa Radio Cymunedol, ond daeth y cymorth hwn i ben.[29] Mae Ofcom yn parhau i ddyfarnu grant Gronfa Radio Cymunedol ar ran DCMS, ond prin yw’r enghreifftiau o gefnogaeth i orsafoedd yng Nghymru.[30] Wrth ddyfarnu grantiau ar gyfer 2017-18 trafododd panel y Gronfa ofynion y Gymraeg, gan nodi y ‘dylai’r gorsafoedd y mae’r gofynion yn berthnasol iddynt ddarparu manylion ynghylch effeithiau grant ar ddefnydd yr orsaf o'r Gymraeg’.[31] Er hyn, mae’r nifer fach iawn o orsafoedd o Gymru sy’n derbyn y cymorth yn golygu na fydd yr ystyriaeth hon yn berthnasol i lawer ohonynt. 

4.3 Gweithlu

Yn ôl adolygiad o'r Gronfa Radio Cymunedol (2012)‘nododd nifer o orsafoedd a oedd am gynyddu nifer eu rhaglenni Cymraeg eu bod wedi'i chael hi'n anodd recriwtio gwirfoddolwyr Cymraeg eu hiaith a oedd yn ddigon hyderus i ganiatáu i'w gwaith gael ei ddarlledu neu ddeunydd a ysgrifennwyd ganddynt gael ei gyhoeddi ar wefannau’.[32] Wrth reswm, mae’r adolygiad wedi dyddio ers ei gyhoeddi yn 2012. Nid yw hi’n glir i ba raddau mae darpariaeth sgiliau a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog wedi mynd i’r afael â’r anawsterau hyn yn y sector. Dengys ymchwil o 2011 a 2014 fod galw am siaradwyr Cymraeg yn y sector diwydiannau creadigol, yn enwedig mewn is-sectorau megis radio, cyfryngau rhyngweithiol, hysbysebu, ffilm ac animeiddio. [33] [34] Cafwyd rhaglenni dros y blynyddoedd i ddiwallu anghenion gweithlu’r sector. Un enghraifft yw rhaglen ‘Sgiliau ar gyfer yr Economi Ddigidol’, sef menter gwerth £4.38 miliwn a gyflwynwyd rhwng 2011 a 2015 o dan nawdd ariannol Cronfa Gymdeithasol Ewrop i gynnig hyfforddiant yn y maes creadigol er mwyn hybu diwydiant cystadleuol yng Nghymru.[35] Gosododd y prosiect darged o gyfranogiad o 20 y cant gan siaradwyr Cymraeg.[36] Yn ôl gwerthusiad interim cyflawnwyd yn dda yn erbyn y targed hwnnw rhwng 2011 a 2013.37[37] Er hynny, mae angen diweddaru’r sail tystiolaeth sy’n bodoli ar hyn o bryd er mwyn gallu cynllunio’n fwy effeithiol ar gyfer gweithlu dwyieithog. Byddai hyn er budd y diwydiant radio yn ogystal â’r sector creadigol yn ei gyfanrwydd a sectorau eraill o’r economi.

Mae cyflwyno Radio Cymru 2 yn gam sylweddol ymlaen o ran cynyddu amrywiaeth y ddarpariaeth. Er hyn, ceir heriau amrywiol sy’n debygol o rwystro cynnal a chynyddu ystod ac amrywiaeth y ddarpariaeth radio bresennol yn y Gymraeg, yn enwedig o ran radio cymunedol a masnachol. Er mwyn deall yr heriau hyn yn well, byddwn yn cefnogi ac annog rhagor o sylw i’r materion canlynol mewn perthynas â’r gorsafoedd hyn: 

-       Dichonolrwydd ac effaith bosibl trosglwyddo i DAB [4.1]

-       Goblygiadau demograffeg siaradwyr y Gymraeg ar gyfer cyrhaeddiad y gwasanaeth mewn ardaloedd gwledig [4.1.]

-       Effaith bosibl dadreoleiddio radio masnachol ar gynnwys cyfrwng Cymraeg [4.1.]

-       Digonolrwydd y cymorth ariannol sydd ar gael ar hyn o bryd i’r gorsafoedd radio cymunedol sy’n cynnwys rhywfaint o gynnwys yn y Gymraeg ac effaith pwyslais Ofcom ar ‘ofynion y Gymraeg’ wrth ddyfarnu grantiau o’r Gronfa Radio Cymunedol [4.2.]

-       Llwyddiant rhaglenni hyfforddi ôl-16 hyd yn hyn i fagu gweithlu dwyieithog i ddiwallu anghenion yn y sector radio a diwydiannau creadigol yn gyffredinol [4.3.]



[1] Ofcom, ‘Communications Market  Report: Wales’, (Awst 2017),  t. 43.

[2] Ofcom, ‘Communications Market  Report: Wales’, (6 Awst 2015),  t. 55. http://stakeholders.ofcom.org.uk/binaries/research/cmr/cmr15/2015_CMR_Wales.pdf

[3] http://www.rajar.co.uk/listening/quarterly_listening.php

[4] Ofcom, Market Report – Wales (2017), t. 42 https://www.ofcom.org.uk/__data/assets/pdf_file/0012/105006/wales-radio-audio.pdf 

[5] Mae canran cyrhaeddiad yn dynodi canran o’r boblogaeth dros 15 oed o fewn TSA [Total Survey Area] y gwasanaeth sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn wythnosol am amser penodol [http://www.rajar.co.uk/content.php?page=glossary]

[6] BBC, Adroddiad Blynyddol 2016/17 (2017) t. 39

https://downloads.bbc.co.uk/aboutthebbc/insidethebbc/reports/pdf/bbc-annualreport-201617.pdf  

[7] [http://www.rajar.co.uk/listening/quarterly_listening.php]  

[8] Adran 264(4)(c) Deddf Cyfathrebiadau 2003

[9] BBC, Adroddiad Blynyddol 2016-17, t. 39.

[10] https://www.ofcom.org.uk/__data/assets/pdf_file/0018/107352/crynodeb-amodau-rheoleiddio.pdf

[11] https://www.ofcom.org.uk/__data/assets/pdf_file/0023/107096/bbc-performance-measures-cymraeg.pdf

[12] Ofcom, Introduction to Of com’s  Operating  Framework for the  BBC  (Hydref 2017) https://www.ofcom.org.uk/__data/assets/pdf_file/0030/99408/bbc-framework.pdf, t. 3.

[13] Ofcom, Review of  the  approach to  community radio  Key  Commitments: Consultation (29 Mehefin 2010)  

[14] www.ofcom.org.uk/__data/assets/pdf_file/0018/72270/welsh_government_respons.pdf

 ; http://gov.wales/docs/drah/publications/130228response-to-comms-review-cy.pdf

[15] Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr (10 Gorffennaf 2017) . tud. 60 http://gov.wales/docs/dcells/publications/170711-welshlanguage-strategy-cy.pdf . 

[16] Ofcom, ‘Communications Market  Report: Wales’, (Awst 2017),  t. 45.

[17] http://www.muxco.com/multiplexes/northwales/

[18] Ofcom, ‘Communications Market  Report: Wales’, (Awst 2017),  t. 51.

[19] t. 5

https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/671660/Small_Scale_DAB_Consu ltation.pdf  

Ofcom, Small-scale DAB trials: final report 2016 (2016), t. 1 https://www.ofcom.org.uk/__data/assets/pdf_file/0021/91371/SSDAB-Final-report-26-Sep.pdf  

[20] Ofcom, Small-scale DAB trials: final report 2016 (2016), t.

[21] Adran Dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (2018)

https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/671660/Small_Scale_DAB_Consu ltation.pdf

 

[22] https://www.ofcom.org.uk/__data/assets/pdf_file/0021/91371/SSDAB-Final-report-26-Sep.pdf

[23] https://www.cbaa.org.au/sites/default/files/3_3CMedia_Issue_8_johnson.pdf t.18

[24] https://www.ofcom.org.uk/__data/assets/pdf_file/0020/51284/localness_statement.pdf

[25] https://www.ofcom.org.uk/__data/assets/pdf_file/0020/51284/localness_statement.pdf

[26] https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/591508/RadioDereg-Final13Feb.pdf

[27] http://www.iwa.wales/click/2015/11/potential-for-radio-in-wales/  ;

https://www.cbaa.org.au/sites/default/files/3_3CMedia_Issue_8_johnson.pdf ; IWA media audit

[28] https://www.cbaa.org.au/sites/default/files/3_3CMedia_Issue_8_johnson.pdf , t. 24.

[29] http://gov.wales/topics/culture-tourism-sport/media-publishing/broadcasting/community-radio-fund/?skip=1&lang=cy

[30] https://www.ofcom.org.uk/cymru/tv-radio-and-on-demand/information-for-industry/radio-broadcasters/community-radio-fund

[31] https://www.ofcom.org.uk/cymru/tv-radio-and-on-demand/information-for-industry/radio-broadcasters/community-radio-fund/communityradio-fund-grants-2017-18-R1

[32] Llywodraeth Cymru (2012) http://gov.wales/docs/drah/publications/120724commradiofundreviewcy.pdf t 17.

[33] Llywodraeth Cymru, Anghenion o ran Sgiliau Cymraeg Mewn Wyth Sector (2014).

[34] Creative Skillset, Sector Skills  Assessment  for the Creative  Media Industries  in Wales (2011),

http://creativeskillset.org/assets/0000/6028/Sector_Skills_Assessment_for_the_Creative_Media_Industries_in_Wales_2011.pdf

[35] Gwerthusiad interim o'r rhaglen Sgiliau ar gyfer yr Economi Ddigidol (10 Ionawr 2013) http://gov.wales/funding/eufunds/previous/project-evaluations/digital-economy/?skip=1&lang=cy . Comisiynwyd Cwmni Arad i gynchryrchu gerthusiad terfynol ond ni lwyddwyd i ganfod fersiwn cyhoeddus y ddogfen: https://arad.wales/project/creative-skillset-cymru-final-evaluation-of-theskills-for-the-digital-economy-programme-2015/

[36] Creative Skillset, Amrywiaeth a chynaliadwyedd amgylcheddol,

http://creativeskillset.org/cy/nations/wales/skills_for_the_digital_economy/diversity_and_environmental_sustainability  

[37] Gwerthusiad interim o'r rhaglen Sgiliau ar gyfer yr Economi Ddigidol (10 Ionawr 2013) http://gov.wales/funding/eufunds/previous/project-evaluations/digital-economy/?skip=1&lang=cy .